Holiadur Profiad Gwasanaeth Clwstwr De Orllewin Caerdydd
Hoffem glywed eich barn am y cymorth a gawsoch gan Glwstwr De Orllewin Caerdydd. Byddwn yn gofyn cwestiynau am eich profiad diweddaraf. Bydd eich atebion yn ein helpu i ddeall yr hyn yr ydym yn ei wneud yn dda a sut y gallwn wella i ddarparu'r gwasanaethau gorau posibl.
Os ydych yn llenwi’r ffurflen hon ar ran rhywun arall, atebwch ar sail eu profiadau a’u teimladau, fel yr ydych yn eu deall. Gallai hyn gynnwys yr hyn maent wedi'i rannu â chi neu'r hyn yr ydych wedi'i arsylwi. Os ydych yn ansicr am gwestiwn, gallwch ei basio.
Mae’r arolwg hwn yn cael ei gynnal gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro (RPB). Mae’r RPB yn bartneriaeth ffurfiol o sefydliadau sy’n cydweithio i wella canlyniadau iechyd a gofal cymdeithasol yn y rhanbarth. I gael gwybodaeth am sut caiff eich data ei storio a'i ddiogelu, darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Ni chaiff data ei gadw am fwy na saith mlynedd.
Drwy lenwi’r ffurflen hon, rydych yn cydsynio i’ch ymatebion gael eu defnyddio. Bydd eich atebion yn cael eu cyfuno ag eraill, gan sicrhau eu bod yn aros yn ddienw ac na ellir eu hadnabod.
Sicrhewch eich bod wedi allgofnodi i gadw'ch ymateb yn ddienw.
0% answered